Yn rhaglen olaf y gyfres mae'r cogydd tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts yn mentro i Barcelona yng Nhatalonia i ddarganfod diwylliant bwyd bywiog y ddinas yng nghwmni'r cerddor Cerys Matthews. O tapas mewn bariau vermuth i ddosbarth meistr paella, bydd Chris yn cael profiadau bwyta bythgofiadwy.
Mae Scott Quinnell yn mynd ar siwrne unwaith eto ar hyd a lled Cymru gan droi ei law at pob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth cael llond bol o hwyl. Bydd Scott yn dychwelyd i'w filltir sgwâr cyn mynd ar antur mewn cwrwgl ar yr Afon Tywi a rhyfeddodau yna'n ei ddisgwyl yn Nhregaron.
Chi erioed wedi clywed am Endometriosis, neu fel y'i gelwir fwyfwy heddiw - 'Endo'' Yn y rhaglen hon, mae'r DJ a'r cyflwynydd Molly Palmer, sy'n dioddef o endo ei hun, yn darganfod mwy am y salwch hwn sy'n effeithio ar tua un o bob deg o fenywod - yr un fath â diabetes - gydag o bosib cymaint â 160,000 o bobl yng Nghymru yn unig yn byw gydag ef. Mae hi'n cwestiynu'r hyn y mae'r cyhoedd a meddygon yn ei wybod yn union amdano, ac yn trafod yr hyn sy'n cael ei wneud, y diagnosis hirfaith, y driniae