Mae'r gyfres gyfan gan Hanna Jarman a Mari Beard ar gael ar sianel YouTube Hansh nawr!
Mae Carys, sydd ag obsesiwn â phodlediadau troseddau real, yn sengl am y tro cynta ers tyfu boobs. Mae'n 27 ac yn gorfod symud nôl i fyw gyda'i rhieni. Mae hi nôl ble'r oedd hi ddeng mlynedd yn ôl, dim job, dim cariad a dim syniad beth i neud nesa.
Cyfle arall i weld wrth i ni nesau at 50fed penblwydd yr opera sebon. Faint wyddoch chi am gymeriad Jason' Mae'r gyfres archif arbennig yma o Gwmderi yn gyfle i dreiddio dan wyneb rhai o gymeriadau fwyaf lliwgar y pentref. Yn y rhaglen hon cawn ddod i adnabod cymeriad Jason dipyn gwell, a hynny dan arweiniad rhywun sydd yn ei nabod yn well na neb, yr actor Rhys ap Hywel.
Wrth i gelwydd Ben gynyddu mae'n wirioneddol credu bod datrysiad i'w holl helyntion yn mynd i ddod trwy gymorth gan Dani. Mae Dani a Jason yn cynnig help llaw ond nid yn y modd y mae Ben yn ei ragweld. Mae diddordeb Mair yn Ioan yn datblygu'n chwim, a gydag annogaeth gan Elliot mae Ioan hefyd yn meddwl bod rhamant ar y gweill. Er mawr siom i Trystan mae'r ci bach y bu yn ei ddeisyfu yn cael ei werthu, ac er bod ymateb cyntaf Rhys yn ei gythruddo, cyn diwedd y dydd mae Rhys wedi meddwl am gynllun
Ffilm fer yn seiliedig ar stori wir cwpl lesbiaidd, Kim a Roseann, a briododd yn Ysbyty Felindre, Caerdydd yn 2018 tra bod Kim yn derbyn triniaeth am ganser. Mae'r ffilm emosiynol hon yn stori garu deimladwy rhwng dwy fenyw ac mae hefyd yn ddathliad o'r staff anhygoel sy'n gweithio i'n GIG a phwysigrwydd gofal tosturiol. Fersiwn Gymraeg o ffilm fer G¿yl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris a ariannwyd gan y Loteri, sef I Shall Be Whiter Than Snow.
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.