Elin Fflur a Trystan Ellis Morris fydd yn cyflwyno prif gystadleuaeth cyfansoddi y flwyddyn. Mewn darllediad byw o Dragon Studios ym Mhencoed, bydd 8 cân newydd yn brwydro am dlws enillydd Cân i Gymru ynghyd a gwobr ariannol o £5000 i'r enillydd, £2000 i'r ail a £1000 i'r trydydd. Pleidlais gyhoeddus yn unig fydd yn dewis yr enillydd, felly cofiwch i fwrw eich pleidlais. Y barnu, y cystadlu, yr anthemau di-ri, pwy fydd y nesa i hawlio eu lle yn hanes Can i Gymru'