Mae'r artist Steve 'Pablo' Jones o Gaernarfon yn pacio bag ac yn mynd i Covent Garden yn Llundain, i Eglwys Sant Paul ble mae'n cwrdd â'r canwr Aled Jones er mwyn gwneud portread ohonno. Er bod Aled a Steve yn edrych fel y cwpwl od, fe wnaethon nhw dynnu mlaen yn syth ac yn sgwrsio fel cwpl o hen ffrindiau. Mae Aled yn teimlo y gall fod yn agored am yr amser pan gollodd y cariad at ganu ond a fydd Steve yn gallu dal y bregusrwydd hwnnw pan ddaw i'r portread'
Cyfres newydd lle mae Dot Davies yn mynd â sêr adnabyddus ar daith bersonol ac emosiynol drwy goridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cartref ein Cyfrinachau, i ganfod y pethe sy'n bwysig iddyn nhw ac i ni ddod i'w 'nabod nhw'n well. Yn rhannu Cyfrinachau'r Llyfrgell y tro yma mae'r naturiaethwr a'r darlledwr Iolo Williams.